Gwiwer goch

A red squirrel sitting by a woodland pool, nibbling a nut

Red squirrel © Mark Hamblin/2020VISION

Gwiwer goch

Enw gwyddonol: Sciurus vulgaris
Mae’n bur debyg eich bod chi wedi gweld llawer o wiwerod – ond ydych chi wedi gweld un goch? Mae gwiwerod coch yn frodorol i’r DU ond yn llawer prinnach na’u cefndryd llwyd! Maen nhw’n byw mewn ychydig o lefydd arbennig ledled y DU diolch i brosiectau ailgyflwyno.

Species information

Ystadegau

Hyd: 18-24 cm
Cynffon: 17-18 cm
Pwysau: 100-350 g
Yn byw ar gyfartaledd am: 6 blynedd

Statws cadwraethol

Protected in the UK under the Wildlife and Countryside Act, 1981. Priority Species under the UK Post-2010 Biodiversity Framework.

Pryd i'w gweld

Ionawr i Rhagfyr

Ynghylch

Mae gwiwerod coch brodorol yn llawer prinnach yn y DU na’u cefndryd Americanaidd, y gwiwerod llwyd. I’w gweld fel rheol mewn coetiroedd conwydd, maen nhw’n hoffi gwledda ar gnau cyll drwy gracio’r gragen yn ei hanner. Os byddwch chi’n lwcus, efallai y gwelwch chi foch coed sydd wedi cael eu cnoi gan adael beth sy’n edrych fel canol afal ar ôl! Mae gwiwerod coch yn creu nyth arw allan o frigau, dail a thameidiau hir o risgl i fyny yn uchel yng nghanopi’r coed. Gellir gweld y gwrywod yn rhedeg ar ôl y benywod drwy’r coed, ac yn llamu ar draws y canghennau a throelli i fyny boncyffion coed.

Sut i'w hadnabod

Mae gan y wiwer goch ffwr cochfrown ac mae’n olau oddi tanodd. Mae ganddi gynffon flewog iawn. Mae’n hawdd dweud y gwahaniaeth rhyngddi a’r wiwer lwyd oherwydd ei bod yn llai, mae ei ffwr yn goch ac mae ganddi gudynnau mawr, nodweddiadol ar ei chlustiau.

Dosbarthiad

I’w gweld yn yr Alban, Ardal y Llynnoedd a Northumberland; poblogaethau ynysig yn weddill ymhellach i’r de yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys Formby, Ynys Môn, Ynys Brownsea yn Dorset, ac Ynys Wyth.

Roeddech chi yn gwybod?

Nid yw gwiwerod coch yn gaeafgysgu, ond maen nhw’n cadw stôr o fwyd i’w cynnal drwy gyfnodau anodd pan nad oes bwyd ffres ar gael. Eu hoff gynefin yw coetir llydanddail cymysg a chonwydd ac mae ganddyn nhw ffynhonnell o fwyd drwy gydol y flwyddyn yno, gan fod hadau pîn yn bresennol drwy gydol misoedd y gaeaf.

Sut y gall bobl helpu

The Wildlife Trusts are working hard to save the red squirrel by improving its favoured habitats and being involved in reintroduction schemes. Volunteers are needed to help with everything from surveying to habitat restoration. So why not have a go at volunteering for your local Trust? You'll make new friends, learn new skills and help wildlife along the way.