Mae Llywodraeth y DU yn bygwth byd natur, yn ddifrifol
Rydyn ni'n gwybod eich bod chi mor ddig â ninnau am gynlluniau Llywodraeth y DU i newid deddfau natur a hinsawdd - ac rydyn ni'n gofyn i chi helpu #AmddiffynNatur. Mae natur wedi dioddef ergyd drom; yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn unig, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y byddant yn:
Mae’r rhain yn mynd yn groes i’r addewidion penodol a wnaeth y Blaid Geidwadol yn eu maniffesto yn 2019 a’r mandad y cawsant eu hethol i lywodraethu arnynt. Does dim dewis ar ôl i ni ond gofyn i’n harweinwyr gwleidyddol ein cynrychioli ni – eu hetholwyr. |
Sut allwch chi helpu: cam wrth gam
Trydarwch i’ch AS
Os ydych chi ar Twitter, defnyddiwch ein ffurflen syml i anfon neges drydar at eich AS.
Ysgrifennwch at eich AS
- Llawrlwythwch ein llythyr templed yma
- Golygwch neu ychwanegu at y testun i adlewyrchu eich pryderon eich hun
- Dewch o hyd i'ch AS yma
- Anfonwch eich llythyr drwy'r post neu e-bost at
Send a postcard to your MP
Ask your MP to speak up for nature by sending a postcard that will land on the doormat of their office.
Pam mae'r Ymddiriedolaethau Natur ac elusennau amgylcheddol eraill mor bryderus?
Rydyn ni’n credu bod Llywodraeth y DU wedi lansio ymosodiad llawn ar fyd natur – gan adael bywyd gwyllt heb ei amddiffyn drwy rwygo rhai o’r cyfreithiau mwyaf sylfaenol sydd gennym ni.
Mae deddfau cynllunio a ‘pharthau buddsoddi’ newydd a gyhoeddwyd ddydd Gwener 23 Medi yn awgrymu y byddai’n ‘rhydd i bawb’ ddinistrio fyd natur. Fe fydden nhw’n gwanhau’r cyfreithiau oedd yn bodoli gynt i’w hamddiffyn rhag y jac-codi-baw a choncrit. Gallai Mesur Cyfreithiau Ewropeaidd Cadwedig newydd hefyd olygu diwedd amddiffyniadau sylfaenol, gan arwain at golli safleoedd bywyd gwyllt dynodedig a llacio cyfreithiau llygredd, gan arwain at fwy o garthffosiaeth yn ein hafonydd a’n nentydd.
Ar ben hynny, mae Llywodraeth y DU hefyd yn adolygu’r system newydd sydd wedi’i datblygu i wobrwyo ffermwyr sy’n helpu i adfer yr amgylchedd. Mae adroddiadau’n awgrymu yn lle hynny y gallent ddychwelyd yn ôl i’r hen drefn o dalu ffermwyr yn dibynnu ar faint o dir y maent yn berchen arno (gyda thirfeddianwyr mwy yn derbyn mwy o gymhorthdal). Dyma dro bedol llwyr ar y diwygio amaethyddiaeth yr addawodd y Blaid Geidwadol ei gyflawni yn eu maniffesto etholiadol yn 2019.
Gallwch ddarllen mwy am y materion hyn yn ein blogiau a rennir isod.