Cwningen

Rabbit

©Jon Hawkins

Rabbit kit

©Jon Hawkins

Cwningen

Mae pawb wrth eu bodd yn gweld cwningod yn sboncio drwy laswellt tal wrth fynd am dro yng nghefn gwlad. Mae’n olygfa gyffredin ond mae bob amser yn bleser gweld eu hwynebau chwilfrydig yn codi i’r golwg, eu clustiau’n syth fel saeth yn gwrando am ysglyfaethwyr.

Enw gwyddonol

Oryctolagus cuniculus

Pryd i'w gweld

Ionawr i Rhagfyr

Species information

Ystadegau

Hyd: 40 cm
Pwysau: 1.2-2 kg
Yn byw ar gyfartaledd am: 3 blynedd
Wedi’i chyflwyno, ond mae’n rhywogaeth sydd wedi brodori. Cyffredin.

Ynghylch

Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi gweld yr anifeiliaid hoffus yma’n pori mewn glaswellt tal ac yn chwilio am eu hoff fwyd. Cawsant eu cyflwyno i ddechrau i’r DU gan y Normaniaid fel bwyd ac am eu ffwr ond nawr maen nhw’n olygfa gyffredin. Maen nhw’n byw mewn grwpiau mawr mewn system o dyllau o dan y ddaear sy’n cael ei galw’n ‘cwninger’. Mae’r benywod yn geni rhwng tri a saith o gwningod bach bob mis yn ystod y tymor magu – mae hynny’n llawer o gwningod bach! Mae cwningod yn fyrbryd blasus iawn i garlymod, bwncathod, ffwlbartiaid a llwynogod coch, a dyma pam mae cael cwninger i guddio ynddi mor bwysig.

Sut i'w hadnabod

Mae’r gwningen yn llwydfrown ei lliw gyda chlustiau a choesau ôl hir, a chynffon wen fflwfflyd. Mae’n llai na’r ysgyfarnog ac nid yw blaenau ei chlustiau yn ddu.

Dosbarthiad

Eang

Roeddech chi yn gwybod?

Anifail brodorol o Sbaen yw’r gwningen a chafodd ei chyflwyno i’r wlad yma gan y Normaniaid yn y 12fed ganrif er mwyn darparu bwyd a ffwr.