Mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn cymryd rhan yng nghynllun Fy Nghoeden, Ein Coedwig, sef prosiectuchelgeisiol gan Lywodraeth Cymru a Coed Cadw a fydd yn cynnig coeden am ddim i bob cartref.
Mae Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru yn un o 50 o ganolfannau ledled Cymru lle gall pobl ddod i gasglu eu coeden.
Bydd yr holl goed yn rhywogaethau brodorol a llydanddail a fydd yn tyfu yn goed maint bach iganolig, sy’n addas ar gyfer gerddi a gofodau llai, a bydd cyfarwyddiadau ar sut i’w plannu wedi’ucynnwys hefyd. Wrth iddyn nhw aeddfedu, byddan nhw’n amsugno carbon, yn brwydro yn erbyneffeithiau newid hinsawdd ac yn cefnogi bywyd gwyllt.
Bydd gwirfoddolwyr ar y safle yn gallu cynghori aelodau’r cyhoedd am y rhywogaethau sydd ar gaeldrwy’r cynllun sydd fwyaf addas ar gyfer eu gofod a sut i ofalu am eu coeden.
Bydd y ganolfan ar agor i’r cyhoedd ar y diwrnodau canlynol:
Weds-Fri 10:30am-3:30pm starting 23rd November – 16th December