Awgrymiadau Garddio Bywyd Gwyllt ar gyfer Gorffennaf
Creu cartref i fadfall y dŵr
yn enwedig os yw n agos i pwll yn yr ardd. Bydd amffibiaid fel Madfallod Dŵr Cribog a Llyffantod yn cropian i’r craciau rhwng y cerrig i gael lloches a man i dreulio’r gaef, a byddant yn cael eu defnyddio hefyd gan fyrdd o greaduriaid di-asgwrn-cefn. Mae creu pentwr cerrig yn hawdd dros ben. Dilynwch y camau isod:
- Dewiswch safle i’ch pentwr cerrig. Mae gerllaw pwll yn ddelfrydol am na fydd yn rhaid i fadfallod y dŵr ac amffibiaid eraill fynd ymhell i gael lloches. Byddai hyd yn oed yn well os yw mewn gwair hir am y bydd hyn hefyd yn rhoi bwyd a llwybr diogel iddynt rhwng y pwll a’r lloches.
- Chwiliwch am gerrig addas. Gallai hwn fod yn wastraff o safle adeiladu gerllaw – dyw madfallod dŵr ddim yn ffyslyd! Ond os ydych yn dymuno iddo edrych yn fwy dymunol, gallwch gael gafael ar gerrig addurniadol.
- Rhowch y cerrig ar ben ei gilydd mewn twmpath unrhyw fodd y dymunwch ond sicrhewch bod bylchau rhwng y cerrig ac oddi tanynt i’r madfallod allu cropian iddynt. Dyw madfallod y dŵr ddim yn debygol o ddringo felly byddai’n well i’r pentwr fod yn llydan yn hytrach nag yn uchel.
Os oes awydd her arnoch, gallech droi’r pentwr cerrig yma yn wal gerrig sych.
Rheoli dolydd
I helpu’r blodau i ymsefydlu’n dda yn eich dôl, rhowch doriad iddo nawr yn ei blwyddyn gyntaf i atal y gwair rhag bod yn drech. Gwnewch yn siwr eich bod yn clirio’r toriadau. Tynnwch chwyn fel dail tafol. Bydd dôl flynyddol ddim fel rheol yn blodeuo yn ei blwyddyn gyntaf.
Top y bath adar
Yn ystod tywydd twym gwnewch yn siwr fod dŵr ar gael yn y bath adar. Caiff ei ddefnyddio gan anifeiliaid diasgwrn- cefn a mamaliaid yn ogystal ag adar. Os nad oes bath adar gennych, rhowch blât o ddŵr allan wedi ei godi ychydig ar fricsen neu ar fwrdd.