Awgrymiadau Garddio Bywyd Gwyllt ar gyfer Ebrill
Creu gardd coed meirw
Mae tomenni coed yn nodwedd dda arall i’w hychwanegu i’ch gardd. Byddan nhw’n creu lloches a bwyd i lawer o rywogaethau gwahanol, gan gynnwys amffibiaid, Draenogod, madfallod a chreaduriaid di-asgwrn-cefn fel chwilod. Bydd ffwng a chen hefyd yn coloneiddio’r pren marw’n gyflym.
- Casglwch ynghyd ddarnau coed a phrennau o wahanol feintiau, siâp a math o goed.
- Chwiliwch am lecyn cysgodol yn yr ardd.
- Rhowch nhw ar ben ei gilydd. Gallwch fod mor daclus neu mor flêr ag y dymunwch gyhyd â’ch bod yn creu digon o holltau a bylchau i’r bywyd gwyllt gropian iddyn nhw!
Rheoli dolydd
Nawr yw’r adeg i blannu eich dôl flodau gwylltion. Mae 5g i bob m2 fel rheol yn ddigon – gwasgarwch nhw ar y ddaear ac yna rholiwch y ddaear neu cerddwch drosto er mwyn sicrhau bod yr hadau yn dod i gysylltiad da gyda’r pridd. Dyfrhewch yn ysgafn. Os yw mewn ardal fechan, gallwch osod brigau bychain drosto i amddiffyn y pridd a’r hadau rhag adar a chathod tan eu bod yn dechrau tyfu.
Darparu deunydd nythu
Rhowch ddeunyddiau nythu allan i’r adar e.e. plu, gwlân, llinyn, mwsog, blew ci. Osgowch ddeunydd y gallai cywion glymu am eu coesau fel gwlân cotwm neu flew ceffyl hir.
Ffrindiau’r Garddwr
Helpwch eich llysiau i dyfu drwy annog rheolwyr plaon naturiol i ymweld â’ch gardd.
- Mae’r Fuwch goch gwta a larfaod Pryfed Hofran yn helwyr naturiol ar blaon fel llyslau, felly plannwch rai o’r planhigion peillgar iawn fel melyn Mair, cennin syfi a ffenigl.
- Mae Llyffantod, Brogaod a Madfallod Dŵr oll yn bwyta gwlithod. Ychwanegwch bwll i’ch gardd (cyfarwyddiadau yn nhaflen mis Tachwedd) i’w hannog nhw yno.
- Mae Pryfed Tân (math o chwilen mewn gwirionedd) yn bwyta gwlithod a malwod. Gallwch eu helpu drwy greu llochesi i’w larfaod rheibus ar ffurf twmpathau coed.
- Mae Draenogod yn fwytawyr mawr ar wlithod a malwod, helpwch nhw i’ch gardd drwy osod tyllau Draenogod mewn ffensys fel y gallant symud yn rhwydd rhwng y gerddi a dylid osgoi peledi gwlithod all wenwyno Draenogod.