Sut i dyfu darn gwyllt neu ddôl fechan
  Opsiwn 1 - Gadewch i'ch glaswellt dyfu'n dal
Mae glaswellt tal, yn frith o flodau, yn un o’r cynefinoedd prinnaf yn ein gerddi ni sy’n cael sylw da, ond eto mae’n hynod fuddiol i fywyd gwyllt. Mae darnau o laswellt tal yn annog gwahanol rywogaethau o blanhigion i dyfu, yn helpu pryfed i ffynnu ac yn creu cyfleoedd bwydo i adar a mamaliaid bychain.
Felly gadewch i fyd natur symud i mewn! Neilltuwch ddarn bach o’ch lawnt, gan adael iddo dyfu, ac aros i weld beth sy'n cyrraedd. Po leiaf taclus ydi'r lawnt, y mwyaf addawol fydd hi i fywyd gwyllt. Fe allwch chi godi'r llafnau torri ar eich peiriant torri gwair i greu rhai llwybrau a gadael gweddill y torri gwair tan fis Gorffennaf neu fis Awst ar ôl i’r planhigion flodeuo.
  Gadewch i fyd natur symud i mewn neu hau darn o flodau gwyllt; ewch ati i greu cornel wyllt yn eich gardd
Opsiwn 2 - Dechrau o'r dechrau
Fe allwch chi greu ardal o flodau gwyllt o'r dechrau ar dir noeth. Dewiswch ddarn gwael o dir sydd heb ei drin yn ddiweddar. Mae dolydd blodau gwyllt yn sefydlu orau ar bridd anghynhyrchiol. Mae’n werth gwirio pa fath o bridd sydd gennych chi a’i pH cyn i chi ddewis pa hadau i’w hau; mae masnachwyr hadau blodau gwyllt yn cyflenwi cymysgeddau sy'n addas ar gyfer gwahanol fathau o bridd a lleoliadau.
Os yw lefel ffrwythlondeb eich pridd yn rhy uchel i flodau gwyllt bythol ffynnu, ystyriwch hau cymysgedd blynyddol ar gyfer cae o ŷd sy’n cynnwys planhigion fel glas yr ŷd, pabi’r ŷd, melyn yr ŷd a bulwg yr ŷd, gyda rhywfaint o hadau haidd a gwenith i greu ymddangosiad naturiol!
I greu eich darn o'r dechrau:
- Ewch ati i reoli’r chwyn drwy gloddio neu balu â pheiriant, gan gladdu unrhyw lystyfiant i ddyfnder o 15 i 20cm. Mae hyn hefyd yn dod â phridd llai ffrwythlon i'r wyneb.
 - Gwasgwch yr arwyneb yn gadarn a’i gribinio i greu gwely hadau.
 - Peidiwch â chael eich temtio i ychwanegu tail neu wrtaith gan y bydd hyn yn annog egni gormodol yn y glaswelltau, sydd wedyn yn tagu’r blodau gwyllt. Dyma'r egwyddor bwysicaf wrth sefydlu dôl o flodau gwyllt.
 - Heuwch yn yr hydref, gan roi amser i'r hadau setlo i mewn dros y gaeaf. Os ydych chi ar glai trwm, fodd bynnag, mae'n well aros tan y gwanwyn. Gall hyd yn oed ardaloedd mawr gael eu hau â llaw yn eithaf hawdd.
 - Gwnewch yn siŵr bod yr hadau wedi'u gwasgaru'n gyfartal drwy hau hanner ar ei hyd a'r hanner sy'n weddill ar draws y llain. Mae cymysgu'r hadau â thywod arian yn gwneud y broses yn haws. Cribiniwch yn ysgafn a dyfrio’n drylwyr.
 
  Planhigion a awgrymir
    Os ydych chi'n plannu yn y gwanwyn
- Dropwort
 - Grape hyacinth
 - Red campion
 - Oxlip
 - Foxglove
 - Primrose
 - Cowslip
 - Ribwort plantain
 - Black medick
 - Hoary plantain
 - Selfheal
 - Wild daffodil
 - Bluebell
 - Sweet cicily
 - Meadow buttercup
 - Ox-eye daisy
 - Cow parsley
 - Cock's-foot
 - Sheep's-fescue
 - Yorkshire-fog
 - Wild thyme
 - Lady's bedstraw
 - Chamomile
 
    Os ydych chi'n plannu yn yr haf
- Autumn hawbit
 - Feverfew
 - Meadowset
 - Teasel
 - Betany
 - Field Scabious
 - Musk mallow
 - Toadflax
 - Foxglove
 - Bird’s-foot-trefoil
 - Tufted vetch
 - Bladder campion
 - Goatsbeard
 - Pignut
 - Scentless mayweed
 - Oxeye-daisy
 - White campion
 - Wild carrot
 - Common agrimony
 - Greater knapweed
 - Purple loosestrife
 - Red clover
 - Red campion
 - Perforate St John's Wort
 - Ribwort plantain
 - Yarrow
 - Harebell
 - Wild thyme
 - Yellow rattle
 - Common mallow
 - Hoary plantain
 - Devil's-bit scabious
 - Viper's bugloss
 - Kidney vetch
 - Salad burnet
 - Lady's bedstraw
 - Nettle leaved bell flower
 - Dropwort
 - Dryers greenweed
 - Selfheal
 - Lesser knapweed
 - Meadow cranesbill
 - Small scabious
 - Cock's-foot
 - Sheep's-fescue
 - Bulbous buttercup
 
Cynnal a chadw eich darn gwyllt
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, mae'n hanfodol sefydlu trefn dorri gwair briodol. Torrwch i 5 i 7cm pan fydd yr uchder yn cyrraedd 10 i 20cm. Gall nifer y toriadau sydd eu hangen amrywio o un i bedwar. Ewch ati i reoli chwyn cryf fel ysgall, danadl poethion a dail tafol drwy chwynnu â llaw.
Ar ôl hyn, dylai toriad neu ddau y flwyddyn fod yn ddigon. Unwaith ddiwedd mis Gorffennaf/dechrau mis Awst ac wedyn eto yn gynnar yn yr hydref. Ar ôl torri’r gwair, gadewch y gwair yn ei le bob amser am ychydig o ddiwrnodau i ollwng unrhyw hadau, wedyn cribinio a thynnu i reoli lefel ffrwythlondeb y pridd.
Cyngor doeth
- 
Byddwch yn ofalus wrth dorri gwair - gall mamaliaid bach, amffibiaid ac ymlusgiaid fod yn cuddio yn y glaswellt. Mae rhai adar yn nythu mewn dolydd mwy, felly peidiwch â thorri’r gwair tan ar ôl dechrau mis Awst.
 - 
Mae blodau gwyllt ar gael ar ffurf plygiau ac mewn rholiau tyweirch wedi'u plannu'n barod, a all wneud sefydlu'r planhigion yn haws fyth.
 - 
Ewch ati i hau cymysgedd o laswellt gwyllt a hadau blodau gwyllt.