Mae ein hafonydd mewn perygl. Rydym angen symud yn gyflym i Achub ein Taf.
Afonydd yw’r asgwrn cefn ein byd naturiol. Maent yn siapio ein tirwedd ac yn cynnal amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt. Mae pob anifail yn dibynnu ar gyflenwad toreithiog a dibynadwy o dŵr glan. Mae afonydd yn cynnal yr amgylchedd naturiol, bywyd gwyllt, a phobl yn mesur cyfartal.
Byddai dweud bod cyflwr ein hafonydd yn y DU yn ofidus yn danddatganiad. Mae'r DU wedi'i rhestru fel un o'r gwledydd gwaethaf yn Ewrop am ansawdd dŵr, gyda 40% o afonydd yn methu ei thargedau ansawdd oherwydd llygredd. Yn y flwyddyn 2022, mi oedd carthion yn cael eu rhyddhau i mewn i ddyfrffyrdd ardraws y DU ar dros 300,000 o wahanol adegau.
Mae afonydd Cymru yn rhan o’r mater hwn, gyda 6 allan o’r 20 afonydd mwyaf llygredig yn y DU a geir yma yng Nghymru. Mi oedd y Taf ar y rhestr hon, gyda dros 9,500 o oriau o garthffosiaeth yn cael ei bwmpio i'w dyfroedd yn 2022 yn unig. Ac nid carthffosiaeth yn unig sy’n llygru’r Taf, mae yna goctel cemegol o blaladdwyr a phlastigion yn gwneud eu ffordd i mewn i'n hafon hefyd. Mae hyn yn annerbyniol ac ni ellir ei oddef unrhyw pellaf.
Nid yw ein hafonydd yn addas ar gyfer pobl na bywyd gwyllt yn bellach, a fydd afon afiach ddim ond arwain tuag at drychineb. Mae hwn yn argyfwng – ac yn un y mae’r cyhoedd ynghyd ag aelodau ein fforwm ieuenctid eisio i’w weld cael ei ddatrys ar frys.
Ein Ymgyrch
Dyma pam rydym wedi creu’r ymgyrch Achub ein Taf. Amcanion yr hymgyrch yma yw’r canlynol:
- Cysylltu gyda grwpiau sy’n taclo materion llygredd ar y Taff yn barod. Mi fyddwn yn amlygu’r waith sy’n digwydd yn barod, a agor gwahoddiad i gydweithio.
- Cynnwys y cymunedau sy’n byw ar hyd y Taf i ymgysylltu gyda’r hymgyrch. Ein nod yw cynnal cyfres o ddigwyddiadau mewn gwahanol fannau cymunedol ar hyd yr afon. Bydd hyn yn cynnwys casglu sbwriel, stondinau ymgysylltu, a sesiynnau adnabod rhywogaethau wahanol yr afon, ynghyd â digwyddiadau eraill sy’n tebyg i hyn.
- Partneru gyda ymchwilwyr i sefydlu samplu gwyddoniaeth dinasyddion o'r afon. Trwy hyn ein gobaith yw casglu tystiolaeth o’r wahanol fathau o llygredd yn yr afon. O'r fan hon, ein nod yw creu set ddata hirdymor sy'n parhau i dracio llygredd afonydd yn y dyfodol.
- Coladu’r holl data rydym am gasglu trwy’r holl digwyddiadau wahanol rydym yn cynnal. Bydd hyn yn cynnwys lluniau, blogs, data o’r prosiectau gwyddoniaeth dinasyddion, i enwi ychydig. Mi fyddwn ni’n cadw cofnod o hyn trwy ein wefan, lle gall partneriaid a aelodau o’r cyhoedd ymgysylltu gyda’r holl data.
- Cyflwyno’r dystiolaeth hon i’n gwleidyddion a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Byddwn yn defnyddio sesiynau trwy gydol y flwyddyn i ymgysylltu â'r bobl a all wneud gwahaniaeth i’r sefyllfa rydym yn wynebu, gan ddangos iddynt y dystiolaeth a'r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud trwy gydol yr ymgyrch.
Eisiau cymryd rhan?
Os ydych rhwng yr oedrannau o 9-24 a eisio i helpu gyda’r ymgyrch hon, ymunwch gyda’r fforwm Sefyll Dros Natur rwan!
Oes gen ti diddordeb i cydweithio? Cysylltwch gyda ein swyddog ymgysylltu gwyllt Alex drwy’r ebost a.griffiths@welshwildlife.org
Cwbwlhau ein Arolwg
Yr ffordd hawsach i cymryd rhan ydi cwbwlhau ein arolwg llygredd afon. Bydd yr arolwg yn cymryd tua 5 munud, ac fydd yn helpu i ddeall yr problem o llygredd yma yn yr afon Taf.
Climate Change on my Doorstep
Our Wilder Engagement Officer shares his thoughts on the recent flooding in South Wales, how climate change has affected him and how he…
March for Water
Our Cardiff Stand for Nature forum took to the streets of London once again, this time calling for more action to clean up our waterways…
Connecting with Our Community: Building Alliances to Save the River Taff
Our forum member Lauren shares why we believe working with our community is key to a successful campaign, and gives an update on some of…